Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 26 Ionawr 2022

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
12740


48(v3)

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 3, 5, 7 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Dechreuodd yr eitem am 14.20

Gofynnwyd cwestiynau 1–4 a 6–8. Ni ofynnwyd cwestiwn 5. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

Ni chafwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.05

Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad i nodi Diwrnod Rhyngwladol Addysg.

Gwnaeth Heledd Fychan ddatganiad i ddathlu canmlwyddiant yr Urdd.

Gwnaeth Carolyn Thomas ddatganiad i ddathlu sefydlu yr Adran leol gyntaf o’r Urdd yn Treuddyn, Sir y Fflint.

</AI5>

<AI6>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.10

NDM7893 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn mynegi ei diolchgarwch am gyfraniad Nick Bennett yn ystod ei dymor yn swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

2. Yn unol â Rheol Sefydlog 10.5 a, gan weithredu o dan baragraff 1 i Atodlen 1 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, yn enwebu Michelle Morris i’w phenodi i swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gan Ei Mawrhydi am dymor o saith mlynedd i ddechrau ar 1 Ebrill 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI6>

<AI7>

6       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig

Dechreuodd yr eitem am 15.15

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7880
James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru)
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Rhys ab Owen (Canol De Cymru)
Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y cymerwyd 101 miliwn o deithiau bws yng Nghymru yn 2018/19, o'i gymharu â 129 miliwn yn 2004/05.

2. Yn nodi ymhellach nad oes gan 23 y cant o bobl yng Nghymru fynediad at gar neu fan.

3. Yn cydnabod bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol yng nghefn gwlad Cymru i atal pobl rhag teimlo'n unig ac ynysig.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu cyllid hirdymor cynaliadwy i awdurdodau lleol er mwyn gwella gwasanaethau bysiau gwledig;

b) sicrhau bod cynghorau gwledig yn cael cyfran deg o fuddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau teithio llesol;

c) gwarantu bod Strategaeth Fysiau Genedlaethol Cymru yn ystyried heriau unigryw trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru.

d) blaenoriaethu buddsoddi mewn cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus nad ydynt yn achosi allyriadau mewn ardaloedd gwledig.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

13

24

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1
Alun Davies (Blaenau Gwent)
Hefin David (Caerffili)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Rhys ab Owen (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y difrod a wnaed drwy breifateiddio gwasanaethau bysiau yn y 1980au ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau fel mater o frys yn y Senedd hon.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

13

14

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7880
James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru)
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Rhys ab Owen (Canol De Cymru)
Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y cymerwyd 101 miliwn o deithiau bws yng Nghymru yn 2018/19, o'i gymharu â 129 miliwn yn 2004/05.

2. Yn nodi ymhellach nad oes gan 23 y cant o bobl yng Nghymru fynediad at gar neu fan.

3. Yn cydnabod bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol yng nghefn gwlad Cymru i atal pobl rhag teimlo'n unig ac ynysig.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu cyllid hirdymor cynaliadwy i awdurdodau lleol er mwyn gwella gwasanaethau bysiau gwledig;

b) sicrhau bod cynghorau gwledig yn cael cyfran deg o fuddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau teithio llesol;

c) gwarantu bod Strategaeth Fysiau Genedlaethol Cymru yn ystyried heriau unigryw trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru.

d) blaenoriaethu buddsoddi mewn cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus nad ydynt yn achosi allyriadau mewn ardaloedd gwledig.

5. Yn cydnabod y difrod a wnaed drwy breifateiddio gwasanaethau bysiau yn y 1980au ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau fel mater o frys yn y Senedd hon.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

13

12

53

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Effaith Covid ar addysg

Dechreuodd yr eitem am 16.19

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7895 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at effaith andwyol cyfyngiadau COVID-19 ar blant a phobl ifanc ledled Cymru, gan gynnwys:

a) dysgwyr yng Nghymru yn colli mwy o ddyddiau o'u haddysg na dysgwyr mewn rhannau eraill o'r DU yn ystod y pandemig;

b) casgliad Estyn bod holl sgiliau mathemateg, darllen, iaith Gymraeg a chymdeithasol dysgwyr wedi dioddef o ganlyniad i gau ysgolion.

2. Yn nodi'r diffyg parhaus o ran cyllid fesul disgybl yng Nghymru o'i chymharu â rhannau eraill o'r DU.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i oresgyn effaith y pandemig ar ddysgwyr Cymru er mwyn sicrhau y gall pob person ifanc gyrraedd ei botensial, drwy:

a) gwarantu y bydd ysgolion yn aros ar agor;

b) cael gwared ar y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau cyn gynted â phosibl;

c) cyflymu'r broses o gyflwyno addasiadau awyru gwell mewn amgylcheddau dysgu;

d) codi'r gwastad o ran cyllid ysgolion ledled Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg yng Nghymru o'i chymharu â chenhedloedd eraill y DU.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

39

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn gresynu at effaith andwyol COVID-19 ar ddysgu a lles plant a phobl ifanc.

2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i gymryd camau priodol i sicrhau bod addysgu wyneb yn wyneb yn cael ei flaenoriaethu a bod yn rhaid gwneud penderfyniadau i leihau mesurau diogelu rhag COVID mewn ysgolion yn unol â'r data.

3. Yn credu bod blaenoriaethu lles disgyblion a staff yn hanfodol wrth i ni ymateb i'r pandemig.

4. Yn nodi canfyddiadau'r Sefydliad Polisi Addysg bod Cymru'n gwario'r swm mwyaf fesul disgybl ar adfer addysg yn y DU.

5. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar:

a) £50 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i alluogi ysgolion i ymgymryd â gwaith atgyweirio a gwella, gan ganolbwyntio ar fesurau iechyd a diogelwch, megis gwella awyru;

b) £45 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol i gefnogi ysgolion wrth iddynt barhau i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig ac i baratoi ar gyfer gofynion y cwricwlwm newydd.

Comparing education catch-up spending within and outside the UK - Education Policy Institute (epi.org.uk) (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

25

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7895 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at effaith andwyol COVID-19 ar ddysgu a lles plant a phobl ifanc.

2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i gymryd camau priodol i sicrhau bod addysgu wyneb yn wyneb yn cael ei flaenoriaethu a bod yn rhaid gwneud penderfyniadau i leihau mesurau diogelu rhag COVID mewn ysgolion yn unol â'r data.

3. Yn credu bod blaenoriaethu lles disgyblion a staff yn hanfodol wrth i ni ymateb i'r pandemig.

4. Yn nodi canfyddiadau'r Sefydliad Polisi Addysg bod Cymru'n gwario'r swm mwyaf fesul disgybl ar adfer addysg yn y DU.

5. Yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar:

a) £50 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i alluogi ysgolion i ymgymryd â gwaith atgyweirio a gwella, gan ganolbwyntio ar fesurau iechyd a diogelwch, megis gwella awyru;

b) £45 miliwn o gyllid refeniw ychwanegol i gefnogi ysgolion wrth iddynt barhau i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig ac i baratoi ar gyfer gofynion y cwricwlwm newydd.

Comparing education catch-up spending within and outside the UK - Education Policy Institute (epi.org.uk) (Saesneg yn unig)

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

11

14

53

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl Plaid Cymru – Bil Etholiadau llywodraeth y DU

Dechreuodd yr eitem am 17.12

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7894 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod etholiadau'n deg ac yn hygyrch i bob pleidleisiwr.

2. Yn condemnio Llywodraeth y DU am gyflwyno'r Bil Etholiadau a fydd yn cyflwyno newidiadau mawr i etholiadau a gadwyd yn ôl, gan gynnwys ei gwneud hi'n ofynnol cyflwyno dulliau adnabod ffotograffig i bleidleisio.

3. Yn cefnogi ymgyrch #HandsOffOurVote sy'n ceisio sicrhau na chaiff unrhyw bleidleisiwr cyfreithlon ei droi i ffwrdd o'r blwch pleidleisio.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu'r mesurau a gyflwynwyd gan y Bil Etholiadau ar bob cyfle gyda Llywodraeth y DU a chodi pryderon yn eu cylch.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

14

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.08 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

</AI9>

<AI10>

9       Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.10

</AI10>

<AI11>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI11>

<AI12>

10    Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 18.15

NDM7892 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Manteision adfer camlas Trefaldwyn: edrych ar gynnydd a manteision y gwaith adfer parhaus sy'n cael ei wneud gan grŵp angerddol o unigolion, gwirfoddolwyr a sefydliadau lleol.

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.36

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 1 Chwefror 2022

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>